Mae budd-daliadau’n effeithio ar nifer fawr o gleientiaid The Wallich; felly, mae newidiadau i’r gyfundrefn lles yn gallu cael canlyniadau pellgyrhaeddol i’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

Mae’r ymateb hwn i’r ymgynghoriad yn cyflwyno gwybodaeth a ddarparwyd gan wahanol aelodau staff ar sail eu profiad yn gweithio i’r Wallich. Mae’n ymddangos bod nifer cymharol fawr o gleientiaid The Wallich heb fod yn hawlio Credyd Cynhwysol eto. Mae a wnelo rhai o’r sylwadau isod â Chredyd Cynhwysol yn gyffredinol, ac maent felly yn amlygu’r mathau o faterion y byddai’n dda o beth i weinyddwr y taliadau - pwy bynnag fydd hwnnw - eu datrys.

Ymateb gan Brosiect BOSS (creu cyfleoedd cyflogaeth i gyn-droseddwyr)

Mae’n reit anodd ateb y cwestiwn ‘a fyddai’r system budd-daliadau’n gweithio’n well pe bai’n cael ei datganoli a’i gweinyddu gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach na’r llywodraeth yn San Steffan’ heb wybod mwy am sut y gallai’r budd-daliadau gael eu rhoi ar waith; senario ddamcaniaethol yw hi. Pe bai gweinyddu budd-daliadau yng Nghymru yn golygu bod budd-daliadau’n cael eu talu’n gyflymach a bod y gwasanaeth yn cael ei deilwrio’n well ar gyfer hawlwyr yng Nghymru, mae’n bosib iawn mai ‘byddai’ fyddai’r ateb.

Isod nodir rhai o agweddau negyddol a chadarnhaol Credyd Cynhwysol:

Effaith negyddol

                     Mae pobl yn disgwyl yn rhy hir i gael CC (5 wythnos cyn y taliad cyntaf, er enghraifft)

                     Nid yw hawlwyr bob amser yn cael gwybod bod ganddynt hawl i daliad ymlaen llaw

                     Mae mynediad i gyfrifon banc yn anodd, yn enwedig os nad oes gan unigolyn ddogfennau adnabod perthnasol

                     Mae diffyg cefnogaeth wrth geisio cofrestru hawliad newydd ar-lein, sy’n achosi oedi ar hawliadau newydd

                     Mae’r rhai sy’n trosglwyddo o fudd-daliadau presennol i CC hefyd yn gorfod disgwyl 5 wythnos am y taliad cyntaf

                     Mae yna broblemau yn ymwneud ag ôl dalu’n fisol - mae sgiliau cyllidebu rhai hawlwyr yn wael a/neu nid ydyn nhw wedi arfer cael eu talu yn y ffordd hon

                     Nid yw’r gofyniad i dreulio 35 awr yn chwilio am swyddi yn realistig ac mae’n gallu arwain at gosbau o dan rai amgylchiadau

                     Mae gennym bryderon ynglŷn â'r hawl i fudd-dal tai a pha mor hawdd yw hi i hawlwyr dalu landlordiaid yn uniongyrchol os nad ydynt wedi arfer gwneud hyn.

 

Effaith gadarnhaol

                     Mae mwy o hyblygrwydd o ran derbyn gwaith tymor byr heb orfod stopio ac ail-hawlio budd-daliadau

                     Mae 'cyfuno’ amrywiaeth eang o fudd-daliadau yn un broses yn symlach, mewn egwyddor.

 

 

Ymateb o Geredigion

Dim ond er mis Rhagfyr rydyn ni wedi cael Credyd Cynhwysol yng Ngheredigion, felly nid ydym wedi cael llawer o brofiad eto.

Y prif adborth hyd yn hyn yw ei bod hi’n cymryd yn hir i gychwyn hawliad newydd - mae’r broses yn cymryd ymhell dros awr a hanner, sy’n anodd i’n cleientiaid, ac efallai hefyd na fydd ganddynt y dogfennau adnabod cywir.

Cyn mis Rhagfyr, cawsom 2-3 o gleientiaid yn symud i mewn o ardaloedd eraill ar CC ac oes oeddent yn symud allan o fewn y cyfnod asesu pedair wythnos cyntaf, roeddem yn cael anhawster mawr i gael yr elfen budd-dal tai wedi’i thalu i ni.

Yr unig sylw arall yn amlwg yw bod gorfod disgwyl pum wythnos am arian ar y dechrau y nesaf peth i amhosib i gleientiaid, felly maen nhw i gyd yn cymryd y taliad ymlaen llaw - mae hynny wedyn yn golygu eu bod nhw mewn dyled am y deuddeg mis nesaf.

Wn i ddim a fyddai datganoli Credyd Cynhwysol yn gwneud llawer o wahaniaeth i’r hyn rydw i wedi’i grybwyll uchod, oni bai fod Llywodraeth Cymru yn barod i edrych ar ddiwygio’r system gyfan a dechrau eto gyda system sy’n debycach i’r hyn oedd gennym gynt (taliadau bob pythefnos, talu Budd-dal Tai ar wahân, etc).

 

Ymateb o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae llawer o broblemau gyda'r Credyd Cynhwysol; dyma rai yn unig ohonynt: Rwy’n gweithio gydag unigolyn sy’n hawlio lwfans gofalwr, er nad yw’r cais am fudd-dal yn adlewyrchu hyn - mae’n dweud bod y cleient yn ‘geisiwr gwaith dwys’. Maen nhw’n tynnu’r lwfans gofalwr o’r lwfans safonol ond nid ydyn nhw’n talu’r premiwm gofalwr i’r cleient. Am y ddau fis diwethaf, mae hwn wedi cael ei ychwanegu â llaw ar ôl i fi gysylltu â’r ganolfan gwaith. Nid yw’r mater hwn wedi cael ei ddatrys yn iawn, sydd wedi golygu mai dim ond hanner rhent y cleient sy’n cael ei dalu i’r landlord, ac mae gan y cleient ôl-ddyledion rhent erbyn hyn.

Mae cleientiaid eraill sydd â didyniadau go sylweddol o’u hawliad CC yn wynebu problemau gan nad oes gan ganolfannau gwaith lleol y grym i newid y didyniadau hyn, er y cytunwyd eu bod yn rhy uchel. Rhaid cysylltu â thimau adennill dyledion yn y sefyllfa hon, ond dim ond os bydd y cleient gyda mi y gwnân nhw siarad â mi, er gwaethaf y ffaith fod y cleientiaid wedi rhoi caniatâd i mi siarad ar eu rhan. Rwyf wedi cynnig ebostio’r ffurflenni caniatâd wedi’u llofnodi sy’n egluro hyn, ond mae’n debyg nad oes gan y tîm penodol hwn fynediad i nodiadau’r cleient, na’r system ebost.

Rydym yn gweithio gyda rhai pobl pur anhrefnus, ac mae cael unigolion fel hyn i eistedd a disgwyl gyda mi am fwy nag awr tra ydym yn disgwyl i gael siarad â rhywun a all helpu yn amhosib weithiau.

Pa un a fyddai datganoli budd-daliadau yn helpu yma ai peidio, wn i ddim, ond dyma’r mathau o broblemau rydyn ni’n eu hwynebu ar y funud.